Bleddyn Ddu
| Bleddyn Ddu | |
|---|---|
| Ganwyd | 14 g |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd |
| Blodeuodd | 1200 |
Bardd o Fôn oedd Bleddyn Ddu (bl. 1330 - 1385), a adnabyddid hefyd fel Bleddyn Ddu Was y Cwd. Un o Feirdd yr Uchelwyr a gadwai at ddull traddodiadol y Gogynfeirdd ydoedd.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ceir peth ansicrwydd am yr enw 'Bleddyn Ddu Was y Cwd' ond credir ar sail cyfatebiaethau geirfa, cystrawen, ac ati y cerddi a briodolir iddo mai enw arall ar Fleddyn Ddu ydyw. Cysylltir y "ddau" â Môn hefyd.
Hanai hynafiaid Bleddyn Ddu o gwmwd Menai ym Môn. Enw ei fab, yn ôl pob tebyg, oedd Ieuan ap Bleddyn Ddu. Canodd Hywel Ystorm gerdd ddychanol i Fleddyn Ddu sy'n cyfeirio at y ffaith ei fod yn un o'r Monwysion. Cyfeirir ato hefyd yng ngwaith Gruffudd Gryg, Dafydd ap Gwilym a Gruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Llygliw. Fel bardd a glerai yn gyson am nawdd yn nhai uchelwyr ar hyd a lled gogledd Cymru y disgrifir Bleddyn gan ei gyd-feirdd. Mae'n bosibl fod y 'Cwd' yn ei lysenw yn cyfeirio at y bag a gariai wrth glera, ond mae'n bosibl fod arwyddocad rhywiol i'r gair hefyd.
Cerddi
[golygu | golygu cod]Cedwir chwe awdl o'i waith, pump ohonynt yn gerddi crefyddol ac un yn awdl farwnad i'r uchelwr Goronwy ap Tudur Hen o Drecastell, un o Duduriaid Môn. Ceir yn ogystal nifer o englynion ar destunau amrywiol, yn cynnwys englynion dychan ac ymryson â'r bardd Conyn Coch.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]| Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- Cyfres Beirdd yr Uchelwyr: Gwaith Bleddyn Ddu[1]
- R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Bleddyn Ddu (Aberystwyth, 1994).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon