Dafydd Benwyn
| Dafydd Benwyn | |
|---|---|
| Ganwyd | 16 g Llangeinwyr |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd |
| Blodeuodd | 16 g |
Bardd Cymraeg proffesiynol o Forgannwg oedd Dafydd Benwyn (bl. ail hanner yr 16g). Er nad yw ei waith o safon uchel mae'n bwysig fel ffynhonnell hanesyddol am hynt a helynt y traddodiad barddol yn y rhan honno o Gymru ac am achau beirdd ac uchelwyr yr ardal.
Bywyd a gwaith
[golygu | golygu cod]Disgybl barddol Lewys Morgannwg a Rhisiart Iorwerth, mab Iorwerth Fynglwyd oedd Dafydd Benwyn. Yn ôl ei gyfoeswr Sils ap Siôn, roedd yn frodor o blwyf Llangeinwyr, Glyn Ogwr, heb fod nepell o ardal Tir Iarll, cartref ei ddau athro.[1]
Roedd yn fardd toreithiog. Ceir dros 180 o gywyddau ac awdlau ganddo yn y llawysgrifau ynghyd â llu o englynion ar bob math o bynciau.[2] Nid oes fawr o werth i'r rhan fwyaf o'i gerddi fel llenyddiaeth - gwelir ynddynt y dirywiad mawr a fu yn nhraddodiad barddol Morgannwg yn ail hanner yr 16g - ond mae ei waith fel arwyddfardd yn bwysig am iddo ganu i'r rhan fwyaf o uchelwyr mawr a bychain y de-ddwyrain a chadw eu hachau. Mae gwaith Dafydd - neu 'y Benwyn' - yn bwysig hefyd fel cloddfa am wybodaeth am enwau lleoedd a ffurfiau tafodieithiol Cymraeg y De.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- J. Kyle Fletcher (gol.), The Gwentian Poems of Dafydd Benwyn (1909). Detholiad bychan.
- G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948). Cefndir a nifer o gyfeiriadau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain ·