Gruffudd ab Adda ap Dafydd
| Gruffudd ab Adda ap Dafydd | |
|---|---|
| Ganwyd | 1340 Arwystli |
| Bu farw | 1370 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd |
Bardd Cymraeg oedd Gruffudd ab Adda ap Dafydd (bl. 1340 - 1370). Roedd yn frodor o gantref Arwystli, Powys, ac yn un o gyfeillion Dafydd ap Gwilym. Yn ei farwnad ffug iddo mae Dafydd yn ei alw yn "aur eos garuaidd".[1]
Cerddi
[golygu | golygu cod]Bardd serch oedd Gruffudd. Dim ond dau gywydd ac un englyn o'i waith sydd ar glawr heddiw ond mae ei gywydd i'r fedwen a dorrwyd i wneud pawl haf yn Llanidloes yn un o'r cywyddau canoloesol mwyaf adnabyddus.[1] Mae'n cyferbynu harddwch ac urddasrwydd byd natur â hyllni ac anghyfiawnder y dref a phopeth a gynrychiolir ganddi, tref lle gosodwyd y fedwen ddifethiedig yn ymyl y pilori cyhoeddus.[2]
Yr Areithiau Pros
[golygu | golygu cod]Cyfeirir ato yn yr Areithiau Pros. Tadogir y parodi Arthuraidd Breuddwyd Gruffudd ab Adda ap Dafydd arno. Ceir araith serch dan ei enw hefyd, sef Trwstaneiddiwch Gruffudd ab Adda ap Dafydd.[3] Nid yw Gruffudd yr unig fardd y tadogir testunau bwrlesg arno; er enghraifft ceir Araith Iolo Goch a Breuddwyd Llywelyn Goch ap Meurig Hen.[3]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]| Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Ceir testun cerdd Gruffudd i'r fedwen yn:
Cyhoeddwyd y ddau gywydd a'r englyn yn:
- Ifor Williams a Thomas Roberts (gol.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr (Bangor, 1914).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog