Iarllaeth Penfro
| Enghraifft o: | teitl bonheddig |
|---|---|
| Math | pendefigaeth Lloegr, Earl |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0kxzr |
- Gweler hefyd Penfro (gwahaniaethu).
Cysylltir Iarllaeth Penfro â Phenfro yn ne-orllewin Cymru; fe'i chrewyd gan Steffan, brenin Lloegr yn 1138 ar gyfer Gilbert de Clare, Iarll 1af Penfro. Mae'r llinach wedi dod i ben sawl gwaith, ac mae'r iarllaeth wedi'i hail-greu 10 gwaith, gan ddechrau'r cyfrif unwaith eto gyda'r Iarll cyntaf. Ar 1 Medi 1533 urddodd Harri VIII, brenin Lloegr ei frenhines, Anne Boleyn, yn Ardalyddes Penfro, braint nodedig, oherwydd fod ei hen-ewythr Siasbar Tudur yn gyn-Iarll Penfro, a chan mai yno y ganed ei dad, Harri Tudur.
Mae'r Iarllaeth bresennol Iarll Trefaldwyn (1605) yn cynnwys y teitlau Iarllaeth Trefaldwyn, Barwniaeth Caerdydd a 'Bwrniaeth Shurland'.
Mae sedd y teulu ers dros 400 mlynedd wedi bod yn Nhŷ Wilton yn Swydd Wilton.
Hanes
[golygu | golygu cod]Crëwyd yr Iarllaeth cyntaf yn 1138, pan gyflwynwyd Iarllaeth Penfro gan Steffan, brenin Lloegr i Gilbert de Clare (bu farw 1148), mab Gilbert Fitz-Richard, a oedd yn berchen ar Arglwyddiaeth Strigul (Estrighoiel, yn y Domesday Book), Cas-gwent yw hi erbyn hyn. Ar ôl Brwydr Lincoln (1141), ble gymerodd ran, ymunodd yr Iarll ag Empress Matilda, a phriododd meistres Harri I, brenin Lloegr, Isabel, merch Robert de Beaumont, Iarll Caerlŷr.