Lux
| Enghraifft o: | uned ddeilliadol SI, uned oleuedd, System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig, uned ddeilliadol UCUM |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/014fpz |
Un o unedau deilliadol y System Ryngwladol o Unedau yw'r lux (symbol: lx), a ddefnyddir i fesur goleuedd, sef mesur o faint o olau sy'n goleuo arwynebedd.[1]
Diffiniad
[golygu | golygu cod]Mae 1 lux yn hafal i 1 lumen y metr sgwâr:
- 1 lx = 1 lm/m2 = 1 cd·sr/m2
Esboniad
[golygu | golygu cod]Y gwahaniaeth rhwng yr unedau lux a lumen yw bod lumen yn fesur o faint o olau sy'n cael ei allyrru o ffynhonnell, tra bo'r lux yn ystyried pa mor llachar y mae'r golau hwnnw'n ymddangos pan gaiff ei wasgaru dros arwynebedd. Po fwyaf yr arwynebedd y mae angen swm penodol o olau i'w oleuo, y pylach y mae'n ymddangos. Mae fflwcs o 1,000 lumen, wedi'i grynhoi i ardal o 1 m2, yn goleuo'r ardal honno gyda goleuedd o 1,000 lux. Os, fodd bynnag, caiff yr un 1,000 lumen ei wasgaru dros dros 10 m2, mae'n cynhyrchu goleuedd o 100 lux yn unig.
Yr enw
[golygu | golygu cod]Mae'r gair yn deillio o'r gair Lladin am "golau", lux.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The International System of Units (SI) (Bureau International des Poids et Mesures, Awst 2025); adalwyd 24 Ebrill 2026