Saunders Lewis
| Saunders Lewis | |
|---|---|
| Ganwyd | John Saunders Lewis 15 Hydref 1893 Wallasey |
| Bu farw | 1 Medi 1985 Caerdydd |
| Man preswyl | Penarth |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | hanesydd, gwleidydd, ysgrifennwr, bardd, beirniad llenyddol, dramodydd, academydd |
| Cysylltir gyda | D. J. Williams, Lewis Valentine |
| Adnabyddus am | Siwan, Blodeuwedd, Brad, Buchedd Garmon, Gymerwch Chi Sigaret? |
| Arddull | theatr |
| Tad | Lodwig Lewis |
| Priod | Margaret Gilcriest |
| Plant | Mair Saunders Lewis |
| Perthnasau | Siwan Jones |

|
|||||
| Yn cael trafferth gwrando ar y ffeil? Gweler Cymorth - sain. | |||||
Dramodydd, bardd, nofelydd, ysgolhaig, beirniad llenyddol a gwleidydd oedd John Saunders Lewis (15 Hydref 1893 – 1 Medi 1985). Ar 5 Awst 1925 roedd yn un o brif sylfaenwyr Plaid Cymru. Ar 19 Ionawr 1937 dedfrydwyd ef i 9 mis o garchar am ei ran yn llosgi ysgol fomio yn Llŷn. Bu ei ddarlith radio enwog Tynged yr Iaith, a draddodwyd yn 1962, yn sbardun i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]
Ganwyd Saunders i deulu o Gymry oedd yn byw yn Wallasey, ger Lerpwl. Roedd yn ail o dri mab i'r gweinidog Methodist Calfinaidd, y Parch. Lodwig Lewis (1859–1933), oedd yn hanu o Sir Gaerfyrddin. Ganwyd ei fam Mary Margaret (née Thomas, 1862–1900) yn Llundain ond roedd y teulu'n hanu o Sir Fôn.
Mynychodd ysgol y bechgyn yn Liscard, sef rhan o dref Wallasey. Roedd Saunders yn astudio Saesneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Lerpwl[1] pan gychwynnodd Y Rhyfel Byd Cyntaf. Cofrestrodd fel gwirfoddolwr gyda Chatrawd y Brenin, Lerpwl ym Medi 1914 ac yn Ebrill 1915 ceisiodd am gomisiwn gyda Chyffinwyr De Cymru ac fe'i ddyrchafwyd i Is-Gapten yn Chwefror 1916. Gwasanaethodd yn Ffrainc lle fe'i anafwyd.[2] Ar ôl gadael y fyddin, dychwelodd i'r brifysgol i orffen ei radd yn Saesneg.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]
Yn 1922, fe'i apwyntiwyd yn ddarlithiwr yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe. Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe, cynhyrchodd rhai o'i weithiau mwyaf sylweddol o feirniadaeth lenyddol: A School of Welsh Augustans (1924), Williams Pantycelyn (1927), a Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (1932).[4]
Cafodd ei benodi'n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn 1957 ymddeolodd i'w gartref ym Mhenarth, ger Caerdydd ac ymroddodd i ysgrifennu ar gyflwr gwleidyddol ac ieithyddol Cymru. Yn 1962 cyhoeddodd Tynged yr Iaith, sef darlith Radio BBC Cymru; y canlyniad fu sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Fe enwebwyd Saunders Lewis am wobr lenyddol Nobel yn 1971.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd Margaret Lewis (née Gilcriest) (1891-1984) ar 31 Gorffennaf 1924 yn eglwys Gatholig Our Lady and St Michael yn Workington, Cumberland. Cafwyd iddynt un plentyn, Mair Gras Saunders (1926-2011).[2]
Yn fab i weinidog Methodistaidd, ymunodd â 'r Eglwys Babyddol yn 1932, yn bennaf oherwydd dylanwad ei wraig Margaret.[1] Yn 1936 llosgodd Saunders, ynghyd â D. J. Williams a Lewis Valentine, adeiladau yr ysgol fomio ym Mhenyberth ac o ganlyniad collodd ei swydd fel darlithydd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe.
Bu farw wedi salwch hir yn Ysbyty St Winifred, Caerdydd, ar 1 Medi 1985.[5]
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Ei ddramau mwyaf yw Blodeuwedd a Siwan, sy'n ymwneud â'r gwrthdaro rhwng cariad a chwant. Yn ei nofelau Monica a Merch Gwern Hywel, yn ogystal ag yn Siwan, mae cytundeb priodasol yn holl bwysig ac yn hanfodol er lles cymdeithas. Roedd yn gredwr cryf yn y traddodiad Ewropeaidd, a gwelodd fod dylanwad Lloegr yn rhwystr i Gymru ddeall y traddodiad hwnnw. Dau ddylanwad mawr arno oedd Emrys ap Iwan a W.B. Yeats.
Gwobrau a theitlau
[golygu | golygu cod]Yn 2005 cafodd Saunders Lewis ei enwi fel y degfed Cymro pwysicaf erioed mewn pôl piniwn a wnaed gan y BBC.[6]
Ar Fedi 22, 2016 cafodd plac glas ei ddadorchuddio er cof amdano yn Stryd Hanover, Abertawe, lle bu'n byw pan symudodd i'r ddinas ar ôl cael ei benodi i Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Abertawe yn 1922.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]
